top of page

Goruchwylio DigwyddiadauOs ydych yn trefnu digwyddiad neu achlysur pam nag eisteddwch yn ôl a gadael i ni wneud y gwaith caled? Gwasanaeth wedi ei deilwra ydw hwn ac wedi ei drefnu o amgylch eich anghenion personol. Efallai fod gennych leoliad eisoes a syniad o'r hyn yr hoffech ei gael yn eich achlysur, felly gadewch i ni roi'r cyfan at ei gilydd er mwyn sicrhau bod pob manylyn yn ei le ac yn berffaith. Ar y llaw arall, efallai yr hoffech i ni drefnu popeth a gwnawn hyn â phleser. Gallwn helpu gyda: Dod o hyd i leoliadCreu'r fwydlen berffaithBlodau anhygoelMeistr y SeremoniCacennau ar gyfer pob achlysurDewis o winoeddHurio pebyllLlestri, gwydrau a llieiniau arbennigAddurniadau bwrddMae gennym nifer o flynyddoedd o brofiad yn goruchwylio digwyddiadau ar hyd a lled y wlad, yn brydau arbennig yn y cartref a phriodasau mewn pebyll. Rydym yn gwirioni ar fwyd a gwin yn Finesse ac yn mwynhau creu bwydlenni a chreu seigiau personol felly cysylltwch a gallwn ddechrau dylunio eich bwydlen bersonol. Gallwch roi eich ffydd yn Finesse i gynllunio, trefnu a goruchwylio eich achlysur gydag angerdd a steil. Galwch am gyngor a dyfynbris heb ymrwymiad.

 

bottom of page